Plant Y Gymuned Ysgol Rhieni Cymraeg English
English Cymraeg
 

 

Linciau Pwysig

Ysgol Iach

Yr Ysgol Sy’n Hybu Iechyd

Chwefror 2012
Dydd Llun Chwefror 20fed daeth Mark y Consuriwr i’r Ysgol i gynnal Gweithdy “Paid Cyffwrdd Dweud” er mwyn codi ymwybyddiaeth Bl 3 a 4 o beryglon cyffuriau, a Bl 5 a 6 o beryglon Alcohol.

Llysgenhadon Chwaraeon
Mae Catrin Elen Jones a Carwyn Owen wedi eu dewis fel Llysgenhadon Chwaraeon i’r Ysgol. Eu gwaith fydd hyrwyddo chwaraeon o fewn yr Ysgol. Pob lwc iddynt gyda’r gwaith yma.


Campau’r Draig
Cynhelir gweithgareddau bob yn ail Nos Lun rhwng 3:15 a 4:15 gan gychwyn Nos Lun Hydref 31ain 2011


Mai 2011
Her brwsh dannedd
Llongyfarchiadau i holl ddisgyblion yr ysgol am lwyddo i gwblhau her brwsh dannedd Dwr Cymru. Mae hyn yn dangos ein bod yn deall gwerth dwr a’r rhan hanfodol mae’n ei chwarae yn ein bywyd bob dydd.


Cynllun Ysgolion Iach Gwynedd

logo Mae cynllun Ysgolion Iach Gwynedd yn cael ei reoli mewn partneriaeth gyda Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol Cymru, Cyngor Gwynedd, CYNNAL ar Bwrdd Iechyd Lleol.

Mae’r cynllun yn galluogi ysgolion i gyfrannu’n bositif tuag at iechyd a lles eu disgyblion, athrawon a’r gymuned ehangach drwy ddatblygu amgylchedd sy’n hyrwyddo iechyd.

Mae ‘Ysgolion Iach’ yn cyflwyno agweddau iechyd a lles drwy’r:-

  • Cwricwlwm Cenedlaethol
  • Cwricwlwm cudd ac ethos yr ysgol
  • Datblygu ar y cysylltiadau sydd yn bodoli eisoes rhwng y cartref, y gymuned ac asiantaethau arbenigol.

Mae cynllun Ysgolion Iach Gwynedd wedi ei rannu i dair Cam. Disgwylir i ysgolion gyflawni gwaith yn gysylltiedig â’r cynllun mewn oddeutu 3 blynedd. Mae’r Ysgol wedi llwyddo i gwblhau CAM 1 o Ysgolion iach yn llwyddiannus yn 2008.

Er mwyn cwblhau gofynion ysgolion iach mae’n ofynnol i’r Ysgol weithredu ar y deg pwynt sy’n rhan o’r cynllun

Mae’r Ysgol wedi cyflawni'r 4 pwynt isod ac maent yn weithredol yn yr Ysgol.

Pwynt 1
Dylai’r ysgol ddatblygu ar y cysylltiadau gyda’r cartref, y gymuned, a gwasanaethau arbenigol perthnasol, gan bwysleisio gwir bartneriaeth a’r awydd i ddod yn Ysgol Iach

Pwynt 2
Dylid datblygu agwedd bositif ysgol-gyfan tuag at fwyd a maeth a sicrhau bod bwyta’n iach yn cael ei hyrwyddo.

Pwynt 5
Dylid dangos ymrwymiad i wella amgylchedd yr ysgol, er hyrwyddo iechyd a lles holl gymuned yr ysgol.

Pwynt 6
Sicrhau cynlluniau tymor hir sy’n rhoi cyfle i bob disgybl i gymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol yn gyson.
Ar gyfer y dyfodol bwriedir gweithredu ar y pwyntiau isod :

Blwyddyn 2 2009/10
Pwynt 3 -Dylai’r ysgol ddatblygu fel man gwaith
sy’n hyrwyddo iechyd cymdeithasol, corfforol ac emosiynol pob aelod o staff.
Pwynt 7 Sicrhau bod yr ysgol gyfan yn amgylchedd di-fwg, sy’n pwysleisio manteision peidio ysmygu.
Pwynt 10 Sicrhau bod yr ysgol yn ystyried diogelwch yn flaenoriaeth gan weithredu’n rhagweithiol yn hytrach nag yn adweithiol.

Blwyddyn 3 2010/11
Pwynt 4 Dylai’r ysgol weithredu i atgyfnerthu hunan werth a hyrwyddo iechyd meddwl yr HOLL ddisgyblion.

Pwynt 8 Dylai’r ysgol feddu ar Bolisi Atal Cyffuriau a gefnogir gan raglen addysg gyffuriau ac alcohol a gynlluniwyd.

Pwynt 9 Dylai’r ysgol ddangos ymrwymiad i Addysg Rhyw a Pherthnasoedd trwy feddu ar Bolisi a rhaglen addysg a gynlluniwyd.


 
 
 Argraffu E-bostiwch Ni Marciwch Ni Sôn wrth ffrind
 
   
 
Ysgol Gymuned Penisarwaen, Caernarfon, Gwynedd, LL55 3BW - ffôn: 01286 870879

Gwefan gan Delwedd