Ffynnon Cegin Arthur
Ar un amser yr oedd Ffynnon Cegin Arthur yng nghanol cors eithriadol. Ychydig o flynyddoedd yn ol, yn anffodus, rhoddwyd yr hawl i rywun blannu coed bythwyrdd ar y gors, a'i difetha'n llwyr. Cyn hyn yr oedd y gors yn lle arbennig am fywyd gwyllt: yn adar, ymlusgiaid, mamaliaid a phlanhigion. Yma yr oedd yr ysgyfarnog a'i gwal, y ffwlbart (anifail bach prin sydd i'w gael yng Nghymru a'i ffiniau). Yr oedd hwyaid gwylltion, cornchwiglod, gylfinirod, ieir dwr a nifer o adan diddorol yn nythu yma. Ymysg y grug byddai y wiben yn llechu. Yn ogystal yr oedd y lle yn frith o blanhigion rhostir a gors. Un arbennig oedd, llygaeron. Blodyn bach hyfryd yw hwn sydd yn dwyn ffrwyth bach coch. Llygaeron yw'r saws y byddwch yn rhoi ar eich terci Nadolig. Cranberry yw'r gair saesneg amdano.
Roedd y mawn yn drwchus iawn yma a lle roedd y mawn wedi torri yr oedd boncyffion coed bedw i'w gweld. Tyfai'r coed hyn 500 mlynedd cyn geni Crist ond newidiodd y tywydd i fod yn wlyb iawn. Tyfodd mwsogl yn drwchus gan orchuddio'r coed a'u lladd. Claddwyd y coed yn y mawn gan eu cadw rhag pydru.
Ond yr hyn sy'n hynod yw'r ffynnon sef Ffynnon Gegin Arthur. Ffynnon feddygol oedd hon yn llawn o rinweddau iachus. Bu son am greu "Spa" yma fel Llandrindod Wells er mwyn denu pobl i'r ardal i yfed y dwr iachus. Ons ni wireddwyd y cynllun.
Afon Cegin
Y mae Afon Cegin yn codi yn Ffynnon Gegin Arthur ac yn ymlwybro i gyfeiriad Bangor am 9 milltir ac yn arllwys i'r mor yn Aber Cegin.
Ar un amser cyn oes y rhew ddiwethaf, dros 10,000 o flynyddoedd yn ol, yr oedd yr afon yn fach ac yn llifo i Afon Seiont tua 1 filltir i ffwrdd. Daeth rhiw lifiad i lawr o fwlch Llanberis a chau llwybr naturiol yr afon i'r Seiont, gyda chreigiau a mwd. Neu dyna mae'r daearegwyr yn honni. Yr oedd rhaid i ddwr yr afon fynd i rywle, felly aeth i gyfeiriad Bangor.
Ffaith diddorol arall am Afon Cegin yw yma y boddwyd yr athro/bardd Dafydd Ddu Eryri. Cerdded adref o Fangor oedd o ar dywydd stormus iawn pan sythiodd i mewn i'r afon nid nepell o'r lle a elwir Braich Reffri. Y dyddiad oedd Mawrth 30ain 1822. Claddwyd y bardd ym mynwent Llanrug. Dywed ambell i un ei fod yn feddw pan syrthiodd i ddwr oer yr afon. Rydw i'n falch o ddweud mai nid Dafydd Du sydd ar y radio oedd yr uchod, mae Dafydd Du yn fyw a bron yn iach (y mae ganddo annwyd)
Y mae y ddiweddar R.J.Thomas, arbenigwr ar enwau anfonydd, yn egluro enw'r afon o'r ffynnon fel hyn:- "Yn y ffynnon y mae dwr coch a blas haearn arno yn byrlymu i fyny'n gryf. Tybid mai'r ysgum neu'r rhwd haearn a nofiai ar wyneb y dwrydoedd braster y cig a godai o'r gegin i fyny i'r ffynnon, ac mai'r nwy a ollyngid oedd y mwg o dan y gegin".