Diwrnod Mor Ladron - Roedd 'na fwrlwm yn nosbarth y Cyfnod Sylfaen dydd Mawrth Mai 2ofed, gyda phawb wedi gwneud ymdrech arbennig i wisgo i fyny fel mor ladron fel rhan o’i thema “Y Môr”. Roeddent wedi bod yn brysur yn gwneud bisgedi a chŵn poeth siâp cwch.
Cystadleuaeth Criced –Bu rhai o ddisgyblion Bl 3 i 6 yn cynrychioli’r ysgol yn y twrnament criced yng Nghanolfan Arfon dydd Iau Mehefin 19eg.
Gŵyl Ynni Rheilffordd Llyn Padarn. -Fel rhan o’r gwaith ar drydan y mae disgyblion Bl 3 i 6 wedi bod yn astudio, cafodd rhai ohonynt gyfle i fynychu’r Ŵyl Ynni dydd Iau Mehefin 19eg.
Cymanfa Ganu yn Eglwys Santes Helen -Cynhaliwyd Cymanfa Ganu i agor gweithgareddau wythnos y Carnifal yn yr Eglwys Nos Sul 29/6/14 am 6:30 o’r gloch. Roedd eitem gan blant yr Ysgol yn ystod y noson.
Symud Dosbarthiadau - Bydd Dydd Iau Gorffennaf 3ydd yn ddiwrnod prysur iawn yn yr Ysgol pan fydd pawb yn cael cyfle i symud i fyny i’r dosbarth y byddant ynddo ym mis Medi. Yn ogystal byddwn yn gwahodd y plant a fydd yn mynychu’r Ysgol am y tro cyntaf yn y dosbarth meithrin yma am y bore. Gobeithio y bydd pawb yn mwynhau’r profiadau yma yn fawr iawn.
Ymweld â’r Ysgol Uwchradd – Bydd Bl 6 yn cael cyfle i fynd ar eu hail ymweliad ac Ysgol Brynrefail dydd Iau Gorffennaf3ydd. Dymunwn y gorau i Elin, Brett, Ioan, Cai William a Llion pan fyddant yn cychwyn eu haddysg yno yn Mis Medi.
Tripiau diwedd Tymor yr Haf - Dydd Gwener Gorffennaf 4ydd bydd Dosbarthiadau 3,4,5 a 6 yn cael mynd i Ganolfan Conwy yn Llanfairpwll ble byddant yn cymryd rhan mewn amryw o weithgareddau gwahanol. Bydd Dosbarthiadau Derbyn a Bl 1 a 2 yn mynd i Sw Mor Môn dydd Mercher Gorffennaf 9fed. Bydd cyfle iddynt dan oruchwyliaeth gymryd rhan mewn “safari” ar y traeth.
Mabolgampau – Gobeithir cynnal y mabolgampau pnawn dydd Iau Gorffennaf 10fed am 1:30 o’r gloch os bydd y tywydd yn caniatau. Croeso cynnes i bawb ddod i gefnogi’r plant.
Gwyliau Haf -Bydd yr Ysgol yn cau dydd Gwener Gorffennaf 18fed ac yn ail agor i’r plant dydd Mawrth Medi 2ail.
Tynnu lluniau
Daeth Gwynant Parri i’r Ysgol ar Fawrth 11eg i dynnu lluniau’r dosbarthiadau.
Gwasanaeth Tan
Galwodd Gwawr Williams yn yr ysgol ar Fawrth 12fed i roi cyflwyniad ar ddiogelwch tân yn y cartref i BL 3 i 6.
Gwasanaeth Boreol
Croesawyd Mr Andrew Setatree i’r Ysgol bore dydd Mawrth Ebrill 1af i gynnal y Gwasanaeth boreol.
Ymweliad
Treuliodd PC Meirion Williams fore dydd Mercher Ebrill 2ail yn sgwrsio gyda’r dosbarthiadau yn eu tro am beryglon defnyddio cyffuriau ac alcohol.
Cinio Groegaidd
Mwynhawyd cinio blasus gyda naws Groegaidd wedi ei baratoi gan Anti Carolyn ac Anti Mandy dydd Gwener Ebrill 11eg. Roedd y byrddau ar Neuadd wedi ei addurno gyda baneri gwlad Groeg.
Y Pasg
Mae pawb wedi bod yn brysur iawn yn y dosbarthiadau yn gwneud cardiau ac addurniadau ar gyfer dathlu’r Pasg.
Rhedeg Traws Gwlad
Llongyfarchiadau mawr i Abbi a Georgia Parkinson fu’n aelodau allweddol o dîm rhedeg traws gwlad clwb Menai Track & Field a lwyddodd i ennill Cynghrair Traws Gwlad Gogledd Cymru Dan 11 yn ddiweddar.