RHAGFYR 2010
Sioe Nadolig 2010
Perfformiwyd Sioe lwyddiannus iawn brynhawn a nos Fercher Rhagfyr 15fed. Diolch i’r plant am berfformiad gwych ac i’r holl Staff am eu brwdfrydedd. Rydym yn hynod o ddiolchgar i bawb a ddaeth i gefnogi yn y pnawn ar gyda’r nos.
TACHWEDD 2010
26 Tachwedd 2010
Diolch i Sam, Magi, Catrin a Lois o flwyddyn 6 am gynnal gwasanaeth gwyrdd i’r ysgol gyfan drwy rannu’r neges am gynllun gwyrdd yr ysgol. Roedd pawb wedi mwynhau gwrando ar Y Gerdd Werdd gan Gwyneth Glyn,
Mae pob dosbarth wedi cael cadi cegin i ddal ffwythau ar gyfer eu rhoi yn y bin compostio.
Bu blynynyddoedd meithrin, derbyn, 1, 2,3 a 4 yn brysur yn paratoi bwyd i’r adar yn ystod y tywydd rhewllyd. Roedd adar yr ardd yn ddiolchgar iawn iddynt.
Daeth Swyddog Bio-Amrywiaeth Gwynedd atom ni i’r Urdd i wneud gwaith celf amgylcheddol. Cafodd pawb hwyl yn gwneud eu cynefinoedd bach mewn bocs.
Urdd – Cynhelir y cyfarfodydd ar Nos Lun ar yn ail a champau’r ddraig dyma’r gweithgareddau sydd wedi eu trefnu ar gyfer y Tymor yma :
Nos Lun Tachwedd 8fed- Sgwrs gan Alison Swyddog Bio-Amrywiaeth Gwynedd.
Nos Lun Tachwedd 22ain – Mr Len Porter yn sgwrsio am ei grefft yn gwneud ffyn.
Nos Lun Rhagfyr 13eg – Gwneud crefftau Nadolig gyda Mrs Pat Jones Brynrefail.
|
Y plant yn gwneud cacenau ar gyfer plant mewn angen. |
|
|
Diwrnod Plant mewn angen - Cafodd y plant gyfle i ddod i’r Ysgol wedi gwisgo mewn dillad smotiau a gwallt gwyllt dydd Gwener Tachwedd 19eg. Gwerthwyd cacennau yn ystod egwyl y bore a throsglwyddwyd £194:20c i gronfa plant mewn angen. Diolch i bawb am eu cyfraniadau.
Ymgyrch Plentyn y Nadolig - Casglwyd 25 o focsys o’r Ysgol, dydd Mercher 24/11/10 Roeddent yn llawn o anrhegion i’w hanfon i blant llai ffodus. Diolch i’r rhai a fu’n brysur yn paratoi’r bocsys.
Noson agored - Cynhaliwyd noson agored i’r Rhieni gael cyfle i edrych ar waith eu plant dydd Mawrth 16/11/10.
Pantomeim – Roedd pawb wedi mwynhau’r pantomeim a drefnwyd gan gwmni Copa Comedi yn Theatr Seilo Caernarfon dydd Mercher Rhagfyr 1af.
Diwrnod yn Ysgol Brynrefail – Bydd BL 6 yn cael cyfle i dreulio diwrnod yn Ysgol Brynrefail dydd Iau Rhagfyr 9fed.
Cyngerdd Nadolig - Cynhelir y cyngerdd eleni dydd Mercher 15/12/10. Bydd perfformiad am 1-30 o’r gloch y pnawn a 6 o’r gloch yr hwyr. Bydd yn bosib prynu tocynnau o’r Ysgol am £3:50 i oedolion a £2 i bensiynwyr a phlant Ysgol uwchradd. Croeso cynnes i bawb.
Ffair Nadolig - Cynhelir y Ffair yn yr Ysgol nos Iau Rhagfyr 16eg am 6 o’r gloch. Bydd amryw o stondinau a gobeithiwn y bydd Siôn Corn yn galw heibio.
Cinio Nadolig – Bydd Anti Carolyn yn paratoi’r cinio Nadolig dydd Gwener Rhagfyr 17eg. Mae cyfle i’r plant Meithrin ymuno a ni yn ogystal ar plant sydd yn arfer cael pecyn bwyd.
Cyngor Ysgol
Mae aelodau newydd y Cyngor Ysgol wedi’u hethol am y flwyddyn 2010-2011, sef Owain ac Annia o flwyddyn 6, Catrin a Amie o flwyddyn 5, Catrin a Twm o flwyddyn 4, Elin a Brett o flwyddyn 3 ac Enlli a Carwyn o flwyddyn 2.
Byddant yn cyfarfod bob hanner tymor i drafod materion sy’n codi ac i rannu syniadau ar sut i godi arian a gwella’r ysgol.
Llongyfarchiadau iddynt i gyd! Cliciwch yma i fynd i dudalen y Cyngor Ysgol.
Ysgol Werdd
Mae Gweithgor Gwyrdd wedi ‘i sefydlu yn yr ysgol er mwyn mynd i’r afael ag egwyddorion Siarter Ysgolion Gwyrdd Gwynedd a Môn.
Aelodau’r gweithgor yw Catrin, Magi, Lois a Sam o flwyddyn 6.
Bydd y gweithgor yn cyfarfod yn rheolaidd i drafod materion ‘gwyrdd’ ac i wneud penderfyniadau. Dilynwch ein hynt ar y wefan hon wrth inni geisio am y dystysgrif arian eleni. Pob lwc i’r gweithgor gyda’u gwaith pwysig!
------------------------------------------------------------------------------------
HYDREF 2010
Myfyrwyr -Mae Lisa Sturrs o Brifysgol Bangor a Dewi Jones o Hyfforddiant Gwynedd yn treulio cyfnod yn yr Ysgol ar hyn o bryd.
Urdd -Bydd cyfarfodydd gweithgareddau’r Urdd yn cychwyn yn yr Ysgol ar Nos Lun Tachwedd 8fed rhwng 3:15 a 4:15 o’r gloch.
Gwasanaeth Boreol-Croesawyd Mr Andrew Settatree yma bore dydd Llun Hydref 4ydd i gynnal y gwasanaeth.
Gweithdy Cerdd -Treuliodd Miss Caryl Hughes sydd yn gantores broffesiynnol amser gyda disgyblion CA2 bore dydd Gwener Hydref 8fed. Roedd pawb wedi mwynhau’r gweithdy a’r profiadau a gafwyd yn ystod y cyfnod yma.
Gwaith Maes -Treuliodd BL 5 A 6 amser yn astudio’r Foryd yng Nghaernarfon bore dydd Mercher Hydref 13eg.
Ymweliad Addysgol -Fel rhan o’u gwaith thema ”Trychfilod” bu dosbarthiadau derbyn 1 a 2 yn ymweld a Pili Palas dydd Mawrth Hydref 19eg.
Disco Calan Gaeaf –Cynhaliwyd noson disco yn y Neuadd Gymuned Nos Fercher Hydref 20fed o 6:30 i 7:30 o’r gloch.Diolch i’r “Cyfeillion” am drefnu’r noson yma ar gyfer y plant.
Tynnu Lluniau -Bydd Mr Gwynant Parri yma bore dydd Mawrth
Tachwedd 9fed i dynnu lluniau’r plant . Mae croeso i unrhyw blentyn sydd ddim yn ddisgybl yn yr Ysgol alw draw yn ystod y bore.
Noson Agored – Cynhelir Noson agored dydd Mercher Tachwedd 16eg.
Ymgyrch plentyn y Nadolig— bocsys i mewn erbyn 19/11/10 os gwelwch yn dda.
Pantomeim -Byddwn yn mynd i Theatr Seilo yng Nghaernarfon bore dydd Mercher Rhagfyr 1af i fwynhau’r pantomeim gan “Copa Comedi”.
Ffair Nadolig- Cynhelir y Ffair nos Iau Rhagfyr 16eg am 6 o’r gloch.
------------------------------------------------------------------------------------
MEDI 2010
Croeso
Croesawyd 6 o blant bach newydd i’r dosbarth meithrin. Mae Ela, Holly, Branwen, Rebecca, Osian a Guto
wedi setlo’i lawr yn dda iawn yn ein plith. Rydym hefyd yn croesawu Connor sydd wedi ymuno â BL2 a’i chwaer Natasha sydd wedi ymuno â BL 4.
Croesawn Miss Emma Williams a fydd yn treulio amser yn nosbarth y Babanod yn ystod absenoldeb mamolaeth Miss Bethan Williams a Miss Debbie Williams o Hyfforddiant Gwynedd a fydd yn treulio cyfnod yn nosbarth BL 2,3 a 4 fel rhan o’i chwrs.
Pob Lwc !
Dyna ddymunwn i’r plant sydd wedi dechrau ar eu cyfnod yn Ysgol Brynrefail.
Llongyfarchiadau !
I Elin Owen am ennill gwobr am y gwaith gorau yn y Gymraeg yn ystod 2009/10. Mae’r wobr yma yn cael ei chyflwyno i’r Ysgol gan Mr Selwyn Griffith yn flynyddol a mawr yw ein diolch iddo am hyn. Rydym yn anfon ein cofion ato gan obeithio ei fod yn gwella.
Gwersi Nofio
Mae 33 o blant dosbarthiadau 2,3, 4, 5, a 6 wedi dechrau ar gyfres o wersi nofio sydd yn cael eu cynnal yn wythnosol ar fore dydd Iau, mae pawb yn mwynhau.
Gwersi Offerynnol
Mae 6 o blant yn derbyn gwersi yn yr ysgol bob wythnos.
Ymwelwyr
Daeth Elen Medi draw i’r Ysgol dydd Mercher Medi 15fed i roi sgwrs ddiddorol ar waith yr Ambiwlans Awyr yng Nghymru.
Cyngerdd
Bydd Côr yr Ysgol yn cymryd rhan ynghyd ac Ysgolion eraill y dalgylch, mewn cyngerdd yn Ysgol Brynrefail Nos Fawrth Medi 28ain i godi arian tuag at Ambiwlans Awyr Cymru.
Profiad Gwaith
Croesawyd Glesni Jones ac Elliw Griffith yma am wythnos o brofiad gwaith o Ysgol Brynrefail rhwng Medi 27ain a Hydref 1af.
Urdd
Bydd cyfarfodydd gweithgareddau’r Urdd yn cychwyn yn yr Ysgol ar ôl hanner tymor.