|
|
Rydym yn gwybod bod nifer ohonoch a'ch ffrindiau yn siopa ar lein, felly mae Ysgol Gymuned Penisarwaun yn cydweithio gyda chwmni TheGivingMachine i gynhyrchu rhoddion ariannol ar ein cyfer bob tro rydych yn siopa arlein - heb gostio ceiniog yn ychwanegol. Ewch i www.thegivingmachine.co.uk er mwyn ymweld a'r siop arlein.
Bydd popeth y byddwch yn ei brynu drwy'r wefan hon yn cynhyrchu rhodd ariannol i'r ysgol - a bydd cyfanswm y rhoddion ar gyfer yr ysgol yn cynyddu'n gyflyn iawn. Gallai 500 o siopwyr arlein, sy'n 'rhoi am ddim' i ysgol Gymuned Penisarwaen drwy TheGivingMachine godi tua £7,500 y flwyddyn.Mae mwy na 100 o siopau gwahanol yn rhan o The Giving Machine gan gynnwys eich holl ffefrynnau. |